top of page

ALYS CONRAN

Mae Alys Conran yn cyhoeddi nofelau, straeon byrion, barddoniaeth, ysgrifau creadigol a chyfieithiadau llenyddol. Mae ei nofel gyntaf Pigeon (Parthian Books, 2016) yn awr ar y cwricwlwm TGAU Saesneg (CBAC). Cafodd Pigeon ei gyhoeddi yn ddwyieithog, yn y Saesneg gwreiddiol, ac mewn fersiwn Gymraeg (cyfieithiad Sian Northey) ar yr un pryd, sef y tro cyntaf i nofel gael ei chyhoeddi yn ddwyieithog o'r cychwyn cyntaf. Mi ennillodd Pigeon wobr Llyfr y Flwyddyn  - a bu ei hail nofel, Dignity (Weidenfeld a Nicolson, 2019) hefyd ar y rhestr fer. Enlillodd Pigeon hefyd Wobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Gwobr Dewis y Bobl The Wales Arts Review a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Mae ei ffuglen fer wedi'i gosod yn y Manchester Fiction Prize, y Bristol Short Story Prize a'r Bath Short Story Award. Hi oedd Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli ar gyfer 2019-20, gan ymddangos yng Ngŵyliau y Gelli ledled y byd, a bu ar Arddangosfa Llenyddiaeth Ryngwladol 2020 y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol/Cyngor Prydain, gan gael ei henwi gan Owen Sheers yn The Guardian fel un o ‘Deg Awdur sy’n Llunio Ein Dyfodol’. Mae ei gwaith wedi ei ddramateiddio ar Radio 4 ac ar Radio Cymru, ac mi gynhyrchwyd drama lwyfan o Pigeon  (Bethan Marlow, Theatr Genedlaethol Cymru/Theatr Iolo) a berfformiwyd ledled Cymru, mae Pigeon hefyd yn cael ei ddatblygu fel ffilm ar hyn o bryd. Mae’n Uwch Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn hwylusydd creadigol i sefydliadau eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, treuliodd sawl blwyddyn yng Nghaeredin a Barcelona cyn dychwelyd adref. Mae hi'n siarad ac yn ysgrifennu Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd cyntaf, a hefyd yn siarad Catalaneg a Sbaeneg.

Cynrychiolir hi gan Jenny Hewson

Llun gan Anna Milner

llun gan Anna Milner

alys conran official website

bottom of page