top of page
ALYS CONRAN
FFUGLEN
Cyhoeddwyd yr addasiad Gymraeg gan Siân Northey ar yr un pryd a'r Saesneg gwreiddiol.
Mae fan hufen iâ yn straffaglu i fyny’r allt trwy’r cenllysg. Rhed bachgen a merch ar ei hôl a’i dilyn i gaddug eu dychymyg. Clywir eu lleisiau cyfareddol yn adrodd stori sy’n chwalu mur plentyndod ac yn atsain ar draws y blynyddoedd.
Stori am gyfeillgarwch plant a sut y bygythir y cyfeillgarwch hwnnw yw Pijin. Dyma drasiedi rymus sydd ar adegau’n eithriadol ddoniol. Fel yn y Saesneg gwreiddiol mae’r ddwy iaith yn rhan anhepgor o wead stori am euogrwydd, am golli iaith a cholli diniweidrwydd ac am y math o gariad all oresgyn hyn i gyd.
Addasiad gan Siân Northey
bottom of page